P-05-970 Gofynnwch i’r Senedd ailystyried ei phenderfyniad i beidio â rhoi cyllid brys i sŵau ac acwaria
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan David Wilkins, ar ôl casglu cyfanswm o 6,299 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
O ganlyniad i incwm a gollwyd oherwydd cau sŵau ac acwaria ar frys yn sgil Covid-19, mae Sw Mynydd Cymru ym Mae Colwyn ac eraill yn wynebu argyfwng cyllid. Mae’r Senedd wedi penderfynu peidio â rhoi cyllid brys i’w cefnogi. Oherwydd hyn, mae’r gwaith cadwraeth a’r cyfleoedd addysgol yn y fantol a gall yr ardal golli incwm twristiaeth. Rydym yn gofyn i’r Senedd ailystyried ei phenderfyniad a rhoi’r cymorth hollbwysig hwn.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gorllewin Clwyd
· Gogledd Cymru